Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Mehefin 2022
Amser:
09.30 -
10.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12948
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Jack Sargeant AS |
Tystion: |
Colin Dennis |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Rebekah James (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AS a Joyce Watson AS.
2 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Colin Dennis, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Llythyr gan y Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol at y Cadeirydd ynghylch profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: triniaeth gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflogau is
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Llythyr gan y Cadeirydd at yr Athro Kirby a’r Athro Thapar gyda chwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Ymateb gan yr Athro Kirby ynghylch cwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022
3.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
3.5 Ymateb gan yr Athro Thapar ynghylch cwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022
3.5 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
3.6 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Gweinidogion Iechyd y DU
3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.7 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at y Cadeirydd ynghylch lansio ymgynghoriad ar yr Amgylchedd Bwyd Iach a dod â gwerthiant diodydd egni i blant i ben
3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog.
3.8 Llythyr gan Russell George AS, Cadeirydd, y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol at Weinidog yr Economi gyda chwestiynau dilynol o'r cyfarfod ar 27 Ebrill 2022
3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.9 Ymateb gan Weinidog yr Economi at Russell George AS, Cadeirydd, y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol ynghylch cwestiynau dilynol o'r cyfarfod ar 27 Ebrill
3.9 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
3.10Llythyr gan y Cadeirydd at Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chwestiynau dilynol ar ôl sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 19 Mai 2022
3.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.11Llythyr gan y Cadeirydd at Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chwestiynau dilynol ar ôl sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 19 Mai 2022
3.11 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar ei adroddiad drwy e-bost, cyn ei gyhoeddi ar 1 Gorffennaf 2022.
6 Papur Cwmpasu - Gofal Iechyd Digidol Cymru
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull a awgrymwyd ar gyfer casglu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a’r cylch gorchwyl.